sign in

English

Ffynnu yn sicrhau grant i wella cyfleoedd addysgol pobl ifanc

Mae cylchgrawn Rhwydwaith Maethu Cymru i bobl ifanc, Ffynnu, wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i lunio dau rifyn arbennig arall yn canolbwyntio ar addysg. Mae modd lawrlwytho'r canllaw cyntaf oedd yn trafod materion yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal mewn perthynas ag ysgolion o'r wefan hon. Bydd yr ail, fydd yn canolbwyntio ar addysg uwch, yn dilyn yn haf 2008.

Meddai golygydd Ffynnu, Maria Boffey, "rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi'r cyfle hwn i ni barhau â'n gwaith gyda phobl ifanc. Mae llwyddiant parhaus Ffynnu diolch i'r holl bobl ifanc sy'n derbyn gofal maeth o bob cwr o Gymru sy'n rhannu eu syniadau â ni. Maen nhw'n byw gyda realiti gofal maeth bob dydd o'u bywydau. Heb os, hebddyn nhw, fydden ni ddim yn meddu ar yr un ddealltwriaeth am yr heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth wneud yn dda yn yr ysgol".

Rhifyn arbennig Ffynnu ar gyfer meibion a merched

Mae rhifyn arbennig o'n cylchgrawn i bobl ifanc, Ffynnu, wedi cael ei gyhoeddi yn arbennig ar gyfer meibion a merched gofalwyr maeth.

"Mae'r Rhwydwaith Maethu'n credu fod gan y plant a'r bobl ifanc hyn hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, y dylen nhw gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi am eu rôl wrth helpu lleoliadau maeth i weithio, a bod ganddyn nhw'r hawl i dderbyn y lefelau cefnogi priodol. Gobeithio y bydd y rhifyn hwn o Ffynnu'n helpu i hybu'r hawliau hyn a rhoi rhywbeth i bob un ohonom feddwl amdano".

Golygydd, Maria Boffey

Lawrlwythwch y rhifyn arbennig o Ffynnu ar gyfer meibion a merched gofalwyr maeth.

Os hoffech chi dderbyn copïau ychwanegol o Ffynnu, e-bostiwch maria.boffey@fostering.net.


Ffynnu - y pethau a gyflawnwyd gennym

Roedd Ffynnu’n anelu at ymrymuso pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ofal maeth a darparu llwyfan briodol iddynt fynegi eu barn.

Roedd yr erthyglau ar gyfer Thrive yn cael eu casglu’n bennaf gan bobl ifanc oedd yn cael eu heffeithio gan ofal maeth mewn amgylchedd gweithdy wedi’i hwyluso a lle’r oedd cefnogaeth ar gael. Credwn fod hyn yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc oedd yn rhan o ofal maeth i:

  • fynegi eu pryderon
  • cyfrannu syniadau
  • rhannu profiadau a chefnogi’r naill a’r llall
  • datblygu sgiliau a’r hyder i gyflwyno eu syniadau
  • nodi’r materion allweddol sy’n eu hwynebu
  • bod yn rhan o siapio gofal maeth yng Nghymru drwy gyflwyno eu syniadau i’r bobl all wneud i bethau newid er gwell.

Ym mis Hydref 2005, bu Gweinidog Plant Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Jane Hutt, yn arsylwi un o’n gweithdai ac meddai: “Mae hi mor bwysig fod barn pobl ifanc yn cael ei glywed a bod sylw’n cael ei roi iddo”.

Gofynnodd y Gweinidog hefyd am anfon copïau o’r cylchlythyr at bob aelod o’r Cynulliad a rhoddodd wahoddiad i grŵp o bobl ifanc gwrdd â hi’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae’r cylchgrawn wedi cael ei ddosbarthu i bron 90 y cant o gartrefi sy’n maethu yng Nghymru. Amcangyfrifwn y byddai hyn yn cyrraedd 1740 o blant sy’n cael eu maethu (rhwng 10 a 18 oed) ac y byddai hefyd yn cyrraedd meibion a merched gofalwyr maeth.

I ddysgu mwy am y prosiect hwn neu am gopi papur o Ffynnu, ebostiwch maria.boffey@fostering.net.

Lawrlwytho ôl-rifynnau

Lawrlwytho ôl-rifynnau o Ffynnu