English
Am dair blynedd o fis Mai 2005, mae’r prosiect Cefnogi Gofal yn
gweithio’n agos iawn gyda phump o sefydliadau peilot. Mae hefyd yn
cynnig cyngor ac arweiniad i bob un o’r 22 awdurdod yng
Nghymru.
- Ar 5 Gorffennaf 2005, daeth Support Break Abertawe (yn cael ei
weithredu gan Gyngor Abertawe) i fod yn sefydliad peilot cyntaf i
ni.
- Ymunodd Cyngor Casnewydd ar 8 Awst 2005. Yn anffodus roedd
rhaid i Gyngor Casnewydd dynnu allan ym mis Mai 2006 oherwydd
pwysau cyllido/staffio.
- Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, ar 12 Awst 2005, daeth
partneriaeth rhwng Barnado’s a Chyngor Gwynedd yn awdurdod peilot
rhif tri.
- Ym mis Medi 2005 penderfynodd cyngor Powys ddod yn beilot ac
erbyn hyn mae’n sôn am Gefnogi Gofal wrth bob darpar ofalwr maeth
sy’n cysylltu â’r cyngor.
- Ymrwymodd cyngor Sir Benfro i fod yn beilot ym mis Hydref
2005.
- Llofnododd Rhondda Cynon Taf gytundeb i fod yn beilot gyda
Rhwydwaith Maethu Cymru ym Mehefin 2006.
Mae prosiect cefnogi gofal Rhwydwaith Maethu Cymru hefyd yn
awyddus i helpu gwasanaethau maethu a mabwysiadu i sefydlu
cynlluniau Cefnogi Gofal yn benodol ar gyfer rhieni sy’n mabwysiadu
er mwyn rhwystro mabwysiadu’n torri i lawr. Mae ffigurau sy’n cael
eu dyfynnu’n gyffredin yn awgrymu fod 25-30 y cant o fabwysiadau yn
torri i lawr.
Os hoffech chi gael sgwrs gyda ni am hyn, cysylltwch â Philippa
Williams ar 029 2044 0940 neu ebostiwch ni at philippa.williams@fostering.net.