sign in

English

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru'n gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill i helpu plant sy'n cael eu maethu yng Nghymru gael profiad cadarnhaol o ofal.

Gweithgorau

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru'n eistedd ar weithgorau sy'n delio â phynciau sy'n hanfodol i ddyfodol gofal maeth yng Nghymru. Ymysg y meysydd yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt mae gweithrediad Deddf Mabwysiadau a Phlant 2002, gwella deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal, a gwasanaethau i blant digwmni sy'n ceisio lloches.

Ymgynghoriadau

Rydym yn cysylltu â'n haelodau i sicrhau ein bod yn cynrychioli llais gofal maeth wrth ymateb i ymgynghoriadau ar faterion megis isafswm lwfansau gofal maeth, gwarcheidwaeth arbennig ac unrhyw ddeddfwriaeth arall berthnasol.

Mae’r adroddiadau canlynol wedi dod o ganlyniad i waith blaenorol gyda'r Cynulliad:

  • Addas i faethu? - yn proffilio gofal maeth a gofalwyr maeth yng Nghymru (2003).
  • Agored i bawb? - (yn Saesneg) ymgynghoriad ar fframwaith gwasanaeth cenedlaethol gyda rhieni a gofalwyr plant mewn amgylchiadau arbennig (adroddiad cryno, Rhagfyr 2003).
  • Iechyd meddwl - mater i’r teulu - (yn Saesneg) ymgynghoriad ar fframwaith gwasanaeth cenedlaethol gyda rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl a lles seicolegol (adroddiad cryno, Rhagfyr 2003).
  • Gwarcheidwaeth arbennig - (yn Saesneg) ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn 2004