sign in

English

Beth yw’r prosiect aelodaeth Cysylltiadau Maethu?

Prosiect aelodaeth dros dair blynedd yw Cysylltiadau Maethu, wedi’i gyllido gan y Loteri Fawr, ac wedi’i anelu at gryfhau’r gefnogaeth o fewn y gymuned gofal maeth, adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng gofalwyr maeth a’i gilydd ac amlygu’r materion cyfredol sy’n wynebu’r gwasanaeth gofal maeth yng Nghymru.

Canllaw adrodd stori a darllen

Mae prosiect aelodaeth Meithrin Cysylltiadau wedi cynhyrchu canllaw adrodd stori a darllen sy'n cynnwys awgrymiadau fydd yn eich helpu i gychwyn adrodd stori a darllen gyda'ch plant maeth.

Cafodd yr adran gyntaf ei hysgrifennu gan adroddwyr stori proffesiynol gyda blynyddoedd lawer o adrodd straeon i blant a gyda phlant. Gafodd ei ddatblygu ar gyfer Rhwydwaith Maethu Cymru gan Ganolfan Adrodd Stori George Ewart Evans ym Mhrifysgol Morgannwg. Drwy weddill y canllaw hwn fe ddewch ar draws adnoddau defnyddiol yn cynnwys stori a ysgrifennwyd gan ofalwyr maeth; awgrymiadau am ddarllen i helpu eich plentyn maeth i ddarllen ac adran arbennig ar sut i annog bechgyn yn eu harddegau i ddarllen.

Meddai'r golygydd, Maria Boffey, "Mae adrodd stori'n cael ei gydnabod yn eang am ei fanteision i blant yn cynnwys datblygu eu creadigrwydd, eu dychymyg, eu sgiliau gwrando a siarad, eu llythrennedd, eu gallu i ganolbwyntio a'u sgiliau cymdeithasol. Ar ben hyn, gellid dadlau fod gwrando ar stori ac adrodd stori'n rhoi'r sgiliau hanfodol i blant i ddeall pwy ydyn nhw ac i ddychmygu pa ddyfodol all fod yn bosibl iddyn nhw.

"Rwy'n gobeithio y bydd y canllaw hwn yn dangos fod codi lefelau llythrennedd yn ymwneud â phethau ar wahân i addysg ffurfiol, a bod yna weithgareddau y gall gofalwyr maeth a'u plant wneud gyda'i gilydd i annog mwynhau darllen."

Mae modd cael copïau papur o'r cyhoeddiad gan maria.boffey@fostering.net neu gallwch lawrlwytho ffeiliau pdf yn Gymraeg (861KB) neu yn Saesneg (694KB).

Gweler y dudalen Digwyddiadau am fanylion y daith Adrodd fy stori (yn Saesneg.

Fforwm ymarfer Cymru - Canllaw arfer da 2007

Mae’r canllaw hwn, a gyhoeddwyd gan y prosiect aelodaeth Cysylltiadau Methu, yn anelu at hyrwyddo arfer da mewn maethu gan ddefnyddio astudiaethau achos i amlygu’r ffyrdd ymarferol y mae rhanddeiliaid gofal cymdeithasol yn defnyddio eu hadnoddau i wella gofal maeth.

Mae’r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos gan ymarferwyr, rheolwyr a gofalwyr maeth sydd wedi defnyddio dulliau arloesol i wella eu hymarfer. Er enghraifft, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod y ffyrdd y maen nhw wedi gwella eu gwasanaeth drwy fentora cymheiriaid a rhoi cefnogaeth well i feibion a merched gofalwyr maeth. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n esbonio maethu o safbwynt gwrywaidd tra bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sôn am eu cynllun maethu arbenigol Gyrfa Maethu +.Mae’r canllaw yn cynnwys astudiaethau achos gan ymarferwyr, rheolwyr a gofalwyr maeth sydd wedi defnyddio dulliau arloesol i wella eu hymarfer. Er enghraifft, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod y ffyrdd y maen nhw wedi gwella eu gwasanaeth drwy fentora cymheiriaid a rhoi cefnogaeth well i feibion a merched gofalwyr maeth. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n esbonio maethu o safbwynt gwrywaidd tra bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn sôn am eu cynllun maethu arbenigol Gyrfa Maethu +.

Lawrlwytho’r canllaw arfer da ar PDF (0.3MB)


Pam bod angen Cysylltiadau Maethu?

Dewch i gymryd rhan!