English
P’un a ydych yn ofalwr, yn berson ifanc sy’n derbyn gofal maeth,
yn fab neu ferch i ofalwr maeth, yn weithiwr cymdeithasol sy’n
goruchwylio, yn weithiwr cymdeithasol plant a theuluoedd neu’n
rheolwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig wrth newid gofal maeth yng
Nghymru. Dyma sut y gallwch gymryd rhan:
- Dewch i’n cyfarfodydd aelodaeth. Byddant yn darparu cyfle gwych
i chi gwrdd, sgwrsio a thrafod materion penodol. Mae manylion
dyddiad a lleoliad y cyfarfodydd hyn yn cael eu gosod ar y wefan yn
ddigon pell ymlaen llaw.
- Dewch i’n gweithdai i ddatblygu eich gwybodaeth ar faterion
allweddol a phynciau heriol megis deall ymddygiad plant, pensiynau,
treth a gofal mwy diogel. A’r peth gorau i gyd, mae’r cyfan am
ddim.
- Darllenwch ein nodiadau ymarfer yn seiliedig ar y gweithdai
hyn.
- Anogwch Cadeirydd eich cymdeithas gofal maeth i ymuno â’r
Fforwm Cymdeithasau Gofal Maeth.
- Am yr wybodaeth, y newyddion a’r syniadau arfer gorau
diweddaraf darllenwch ein llythyr newyddion chwarterol – Newyddion.
- Dywedwch wrthym beth yw’r prif faterion, yn eich barn chi, o
fewn gofal maeth yng Nghymru heddiw a helpwch osod yr agenda ar
gyfer y prosiect. E-bost maria.boffey@fostering.net.
- Gall pobl ifanc sy’n derbyn gofal a meibion a merched gofalwyr
maeth gyfrannu tuag at ein llythyr
newyddion i bobl ifanc, Ffynnu. Rydym yn croesawu’n fawr
gyfraniadau unigol a’r cyfle i weithio gyda grwpiau o bobl ifanc yn
un o’n gweithdai ar lythyrau newyddion.
- Byddwn wrth law i helpu a chefnogi gofalwyr maeth gydag
ymholiadau penodol sy’n ymwneud â maethu.
- Byddwn yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Pythefnos Gofal
Maeth.
Sut fydda i’n gwybod pryd mae hyn i gyd yn digwydd?
- Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy argraffu
manylion a digwyddiadau yn llythyrau newyddion yr aelodau, drwy
anfon llythyrau uniongyrchol atoch chi a thrwy osod y manylion
diweddaraf ar ein gwefan.
- Byddwn hefyd yn cysylltu â chymdeithasau gofal maeth a grwpiau
cefnogi ar hyd a lled Cymru. Os hoffech ein gweld yn ymweld â’ch
grŵp chi, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad a welir isod.
Os hoffech ymuno ag unrhyw un o’n digwyddiadau, neu os hoffech
gael mwy o fanylion, cysylltwch â Maria Boffey ar 029 2044 0940 neu
drwy e-bost maria.boffey@fostering.net.
Fel arall, gallwch ysgrifennu ati:
Maria Boffey
Siambrau’r Bae
Gorllewin Stryd Bute
Caerdydd
CF10 5BB
Pam bod angen y
prosiect Cysylltiadau Maethu
Yn ôl i brif dudalen
Cysylltiadau Maethu