sign in

English

Bydd Cysylltiadau Maethu’n galluogi gofalwyr maeth i gefnogi’r naill a’r llall ac i rannu profiadau.

Mae gofalwyr maeth yn greiddiol i ofal plant yng Nghymru, gan ddarparu cartref a theulu i ryw 71 y cant o blant sy’n derbyn gofal. Maent yn darparu i blant sy’n derbyn gofal y gofal, y diogelwch a’r sefydlogrwydd hanfodol mewn bywyd teuluol arferol.

Ond mae angen mwy na chariad a gofal yn unig ar y plant yma, maen nhw angen sylw medrus ac unigol gan eu gofalwyr maeth, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, am ba bynnag gyfnod y byddant gyda nhw. Mae gan lawer o’r plant hyn anghenion arbennig ac mae llawer ohonynt yn heriol iawn i’w gofalwyr maeth, sy’n gweithio yn unigedd eu cartrefi eu hunain am lawer o’r amser.

Bydd prosiect aelodaeth Cysylltiadau Maethu’n galluogi rhanddeiliaid o fewn y gwasanaeth gofal maeth ar draws Cymru i gyfnewid syniadau, nodi materion allweddol ac ymgyrchu drostynt. Bydd y prosiect yn chwarae rhan hanfodol wrth wella gofal maeth ar draws Cymru.

Mae ymchwil wedi dangos yr angen i gynnwys gofalwyr maeth a phlant sy’n derbyn gofal wrth wneud gwelliannau i’r gwasanaeth gofal maeth. Er enghraifft, nododd adroddiad Rhwydwaith Maethu Cymru Addas i Faethu? (2003), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr angen i gynnwys gofalwyr maeth a phlant wrth wneud gwelliannau i’r gwasanaeth gofal maeth.

Fodd bynnag, gan mai dim ond i un gwasanaeth maethu y mae gofalwyr maeth yn cael gweithio, efallai y bydd eu cyfleon i rannu eu syniadau a’u barn wedi eu cyfyngu i’r rhai o fewn y gwasanaeth hwnnw. Mae angen darparu cysylltiadau ar draws y ffiniau hyn. Nododd yr adroddiad hefyd yr angen am ymwybyddiaeth gynyddol o faterion cenedlaethol a hwyluso cyfarfodydd grŵp/ aelodaeth leol.


Beth ydyn ni wedi mynd ati i’w wneud?

Ein nod yw galluogi’r rhai sy’n ymwneud â gofal maeth i gwrdd â’i gilydd ac i:

  • nodi’r prif faterion o fewn gofal maeth yng Nghymru heddiw
  • sicrhau bod llais gofalwyr maeth yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gallu newid pethau er gwell, er enghraifft rheolwyr neu wleidyddion, gan effeithio felly ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol
  • cefnogi ein gilydd
  • dysgu gan ein gilydd
  • rhannu arfer da
  • bod yn rhan o grŵp rhannu gwybodaeth a derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn gofal maeth.

Dewch i gymryd rhan!

Yn ôl i brif dudalen Cysylltiadau Maethu