sign in

English

Datblygiadau yn 2008-09

Yn dilyn llwyddiant y Prosiect 3 blynedd ar Ofal Cefnogol 2005-8 a gyllidwyd gan Ymddiriedolaeth Four Acre, mae Rhwydwaith Maethu Cymru wedi sicrhau cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Four Acre i ymestyn y prosiect am flwyddyn arall tan fis Ebrill 2009.

Ffocws allweddol yn 2008-9 fydd helpu 3 gwasanaeth maethu ychwanegol i sefydlu cynlluniau Gofal Cefnogol. Bydd y 3 chynllun ychwanegol yn ymuno â Barnados Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe i ddatblygu rhaglenni Gofal Cefnogol lleol.

Mae Prosiect Gofal Cefnogol Rhwydwaith Maethu Cymru yn cynnig:

  • Gweithiwr Prosiect i ymweld â thimoedd lleoliadau teulu/timoedd cefnogi teuluoedd i roi cyflwyniad(au) ar Ofal Cefnogol
  • cyngor ac arweiniad ar sut i sefydlu cynllun gofal cefnogol
  • copïau am ddim o “Support Care – The Preventative Face of Foster Care” - arweiniad ymarferol i sefydlu cynlluniau gofal cefnogol yn defnyddio tystiolaeth gan y 5 cynllun Gofal Cefnogol gwreiddiol 2005-8
  • llefydd am ddim ar gwrs hyfforddi Sgiliau i Feithrin ar gyfer Gofalwyr Cefnogol i ddarpar ofalwyr fydd yn cael ei gynnal ar 19-21 Medi 2008
  • mynychu 2 Fforwm Gofal Cefnogol ar 19 Tachwedd 2008 a 25 Mawrth 2009
  • y defnydd o wahanol ddeunyddiau a gynlluniwyd gan ofal cefnogol presennol

Os hoffai eich tîm gymryd rhan, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn elwa o'r cyfleoedd uchod. Cysylltwch â Philippa Williams, Gweithiwr Prosiect – Gofal Cefnogol, Rhwydwaith Maethu Cymru, Siambrau'r Bae, Gorllewin Stryd Bute, Caerdydd, CF1 5BB, rhif ffôn 029 2044 0940.

Lawrlwythwch y daflen ar gynlluniau peilot newydd am ofal cefnogol yn 2008-09

Ym mis Mai 2005, lansiodd Rhwydwaith Maethu Cymru brosiect gofal cefnogol newydd gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Four Acre. Dros gyfnod o dair blynedd, mae’r prosiect yn anelu at:

  • helpu pum awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau gofal cefnogol yng Nghymru
  • gwerthuso effeithiolrwydd dichonol gofal cefnogol fel gwasanaeth prif-ffrwd i blant yng Nghymru
  • lledaenu gwybodaeth ar sefydlu cynlluniau gofal cefnogol yn ehangach
  • cadw gofalwyr maeth nad ydynt yn gallu maethu llawn amser bellach a recriwtio gofalwyr sy’n methu ymrwymo i faethu llawn amser
  • galluogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael yn fwy effeithiol ag anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu hardaloedd.

Gwybodaeth bellach ar ofal cefnogol yng Nghymru


Am ragor o wybodaeth ar y prosiect gofal cefnogol yng Nghymru, cysylltwch â’r gweithiwr prosiect, Philippa Williams ar 029 2044 0940 neu ar ebost philippa.williams@fostering.net.