Mae Rhwydwaith Maethu Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill i helpu plant sy’n cael eu maethu yng Nghymru gael profiad cadarnhaol o ofal.
Mae Rhwydwaith Maethu Cymru’n eistedd ar weithgorau sy’n delio â phynciau sy’n hanfodol i ddyfodol gofal maeth yng Nghymru. Ymysg y meysydd yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt mae gweithrediad Deddf Mabwysiadau a Phlant 2002, gwella deilliannau addysgol plant sy’n derbyn gofal, a gwasanaethau i blant digwmni sy’n ceisio lloches.
Rydym yn cysylltu â’n haelodau i sicrhau ein bod yn cynrychioli llais gofal maeth wrth ymateb i ymgynghoriadau ar faterion megis isafswm lwfansau gofal maeth, gwarcheidwaeth arbennig ac unrhyw ddeddfwriaeth arall berthnasol.
Mae’r adroddiadau canlynol wedi dod o ganlyniad i waith blaenorol gyda’r Cynulliad: