English
Beth yw’r prosiect aelodaeth Cysylltiadau Maethu?
Prosiect aelodaeth dros dair blynedd yw Cysylltiadau Maethu,
wedi’i gyllido gan y Loteri Fawr, ac wedi’i anelu at gryfhau’r
gefnogaeth o fewn y gymuned gofal maeth, adeiladu cysylltiadau
cryfach rhwng gofalwyr maeth a’i gilydd ac amlygu’r materion
cyfredol sy’n wynebu’r gwasanaeth gofal maeth yng Nghymru.
Beth ydyn ni wedi mynd ati i’w wneud?
Ein nod yw galluogi’r rhai sy’n ymwneud â gofal maeth i gwrdd
â’i gilydd ac i:
- nodi’r prif faterion o fewn gofal maeth yng Nghymru heddiw
- sicrhau bod llais gofalwyr maeth yn cael ei glywed gan y rhai
sy’n gallu newid pethau er gwell, er enghraifft rheolwyr neu
wleidyddion, gan effeithio felly ar lefel leol ac ar lefel
genedlaethol
- cefnogi ein gilydd
- dysgu gan ein gilydd
- rhannu arfer da
- bod yn rhan o grŵp rhannu gwybodaeth a derbyn yr wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn gofal maeth.
Pam bod angen
Cysylltiadau Maethu?
Dewch i gymryd
rhan!