sign in

English

P’un a ydych yn ofalwr, yn berson ifanc sy’n derbyn gofal maeth, yn fab neu ferch i ofalwr maeth, yn weithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio, yn weithiwr cymdeithasol plant a theuluoedd neu’n rheolwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig wrth newid gofal maeth yng Nghymru. Dyma sut y gallwch gymryd rhan:

  • Dewch i’n cyfarfodydd aelodaeth. Byddant yn darparu cyfle gwych i chi gwrdd, sgwrsio a thrafod materion penodol. Mae manylion dyddiad a lleoliad y cyfarfodydd hyn yn cael eu gosod ar y wefan yn ddigon pell ymlaen llaw.
  • Dewch i’n gweithdai i ddatblygu eich gwybodaeth ar faterion allweddol a phynciau heriol megis deall ymddygiad plant, pensiynau, treth a gofal mwy diogel. A’r peth gorau i gyd, mae’r cyfan am ddim.
  • Darllenwch ein nodiadau ymarfer yn seiliedig ar y gweithdai hyn.
  • Anogwch Cadeirydd eich cymdeithas gofal maeth i ymuno â’r Fforwm Cymdeithasau Gofal Maeth.
  • Am yr wybodaeth, y newyddion a’r syniadau arfer gorau diweddaraf darllenwch ein llythyr newyddion chwarterol – Newyddion.
  • Dywedwch wrthym beth yw’r prif faterion, yn eich barn chi, o fewn gofal maeth yng Nghymru heddiw a helpwch osod yr agenda ar gyfer y prosiect. E-bost maria.boffey@fostering.net.
  • Dewch i gymryd rhan yn ein hyfforddiant cyfryngau ar gyfer gofalwyr maeth, gan sicrhau fod y gwaith rydych chi’n ei wneud yn cael ei gynrychioli’n dda yn yLooked-after young people and sons and daughters of foster carers c cyfryngau a bod eich negeseuon yn cael eu clywed ar bob lefel.
  • Gall pobl ifanc sy’n derbyn gofal a meibion a merched gofalwyr maeth gyfrannu tuag at ein llythyr newyddion i bobl ifanc, Ffynnu. Rydym yn croesawu’n fawr gyfraniadau unigol a’r cyfle i weithio gyda grwpiau o bobl ifanc yn un o’n gweithdai ar lythyrau newyddion.
  • Byddwn wrth law i helpu a chefnogi gofalwyr maeth gydag ymholiadau penodol sy’n ymwneud â maethu.
  • Byddwn yn trefnu digwyddiadau ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth.

Sut fydda i’n gwybod pryd mae hyn i gyd yn digwydd?

  • Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy argraffu manylion a digwyddiadau yn llythyrau newyddion yr aelodau, drwy anfon llythyrau uniongyrchol atoch chi a thrwy osod y manylion diweddaraf ar ein gwefan.
  • Byddwn hefyd yn cysylltu â chymdeithasau gofal maeth a grwpiau cefnogi ar hyd a lled Cymru. Os hoffech ein gweld yn ymweld â’ch grŵp chi, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad a welir isod.

Os hoffech ymuno ag unrhyw un o’n digwyddiadau, neu os hoffech gael mwy o fanylion, cysylltwch â Maria Boffey ar 029 2044 0940 neu drwy e-bost maria.boffey@fostering.net.

Fel arall, gallwch ysgrifennu ati:
Maria Boffey
Siambrau’r Bae
Gorllewin Stryd Bute
Caerdydd
CF10 5BB


Pam bod angen y prosiect Cysylltiadau Maethu

Yn ôl i brif dudalen Cysylltiadau Maethu