English
Ym mis Mai 2005, lansiodd Rhwydwaith Maethu Cymru brosiect gofal
cefnogol newydd gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Four Acre. Dros
gyfnod o dair blynedd, mae’r prosiect yn anelu at:
- helpu pum awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau gofal cefnogol
yng Nghymru
- gwerthuso effeithiolrwydd dichonol gofal cefnogol fel
gwasanaeth prif-ffrwd i blant yng Nghymru
- lledaenu gwybodaeth ar sefydlu cynlluniau gofal cefnogol yn
ehangach
- cadw gofalwyr maeth nad ydynt yn gallu maethu llawn amser
bellach a recriwtio gofalwyr sy’n methu ymrwymo i faethu llawn
amser
- galluogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael yn fwy effeithiol ag
anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu hardaloedd.
Am ragor o wybodaeth ar y prosiect gofal cefnogol yng Nghymru,
cysylltwch â’r gweithiwr prosiect, Philippa Williams ar 029 2044
0940 neu ar ebost philippa.williams@fostering.net.
Further information on support care in Wales