sign in

English

Mae gan Gymru fwy o blant sy’n derbyn gofal maeth nag unrhyw ran arall o’r DU fel canran o blant sy’n derbyn gofal. Mae bron 1,900 o gartrefi sy’n maethu yng Nghymru yn gofalu am dros 3,000 o blant. Mae gan bob un o’r 22 awdurdod lleol wasanaethau maethu ac mae nifer o ddarparwyr annibynnol hefyd.

Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n gyfrifol am faethu yng Nghymru, er bod deddfwriaeth gynradd yn dal i gael ei gwneud yn Senedd Westminster.

Mae Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) yn arolygu ac yn cofrestru maethu dan y Ddeddf Safonau Gofal. Mae gan Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGCC) rôl yn yr arolygu ehangach o wasanaethau cymdeithasol, yn cynnwys gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Mae’r ddwy arolygiaeth yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dros bwy alla’ i faethu yng Nghymru?

Gwaith y Rhwydwaith Maethu

Mae’n haelodau’n cynnwys y rhan fwyaf o’r gofalwyr maeth unigol yng Nghymru, pob un o’r awdurdodau lleol a phob un o’r darparwyr maethu annibynnol mawr. Mae’n gwaith yn cynnwys:

Mae Rhwydwaith Maethu Cymru wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ac mae ganddo staff bychan a chronfa o weithwyr ar eu liwt eu hunain sy’n gweithio gyda ni ar draws Cymru. Anelwn at gynnig gwasanaeth dwyieithog lle mae hynny’n bosibl.

Mae pwyllgor Cymreig yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i Rwydwaith Maethu Cymru.