sign in

Gweinidog yn lansio llinell gynghori newydd ar gyfer gofalwyr maeth yng nghymru

16 January 2007
Fe fydd yna linell gynghori newydd ar gyfer gofalwyr maeth, eu teuluoedd a gwasanaethau maethu yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, 16 Ionawr) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe fydd Llinell Faethu Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a weithredir gan Rhwydwaith Maethu Cymru, yn darparu ffynhonnell o wybodaeth sy'n rhad ac am ddim ac sy'n annibynnol ac yn darparu cyngor mewn cyfrinachedd ar gyfer gofalwyr maeth presennol a darpar ofalwyr maeth ynglŷn â holl agweddau o ofal maeth, yn amrywio o'r ddarpariaeth gadael gofal i faterion yn ymwneud â deddfwriaeth neu gyllid.

Fe fydd y llinell gynghori yn cael ei lansio mewn digwyddiad hollbleidiol a gadeirir gan Helen-Mary Jones, AC. Fe fydd siaradwyr yn y lansio yn cynnwys y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt, a chyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru, Jane Butler. Fe fydd Jane Butler yn amlinellu rôl y llinell gynghori ac yn annog y 2,000 o ofalwyr maeth yng Nghymru i ddefnyddio'r gwasanaeth rhad ac am ddim. Fe fydd yna ofalwr maeth a pherson ifanc yn siarad o brofiad personol am fuddion yr adnawdd newydd.

Fe ddywedodd Helen-Mary Jones, AC: "Y mae magu plant yn rôl hanfodol bwysig. Os yw plant eisoes wedi cael profiad o droeon anffodus mewn bywyd sy’n dod â hwynt i mewn i ofal maeth, yna y mae hi hyd yn oed yn bwysicach cael pethau yn iawn iddynt. Y mae gofalwyr maeth a'r sawl sy'n gweithio gyda hwynt yn allweddol i gyflawni hyn. Fe all Llinell Faethu Cymru wneud cyfraniad drwy roi cyngor annibynnol i ofalwyr ac eraill sy'n gysylltiedig â maethu – fe gaiff y gwasanaeth newydd hwn ei werthfawrogi’n enfawr."

Fe ddywedodd y Gweinidog dros Blant, Jane Hutt: "Yr wyf yn falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gallu darparu bron £50,000 ar gyfer yr adnawdd pwysig hwn ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru. Fel Llywodraeth, yr ydym yn cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae gofalwyr maeth yn ei wneud i wasanaethau plant, a phwysigrwydd a rôl y gwasanaethau cynnal maethu. Yr wyf yn sicr y bydd y llinell gynghori yn wasanaeth gwerthfawr i bawb syâ'n gysylltiedig â gofalu am blant syâ'n cael eu maethu."

Fe ddywedodd Angie Baker, gofalwr maeth o Gymru: "Yr wyf wedi bod yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau am y tair blynedd diwethaf, ac y mae’r gwaith yn hynod o foddhaus. Fodd bynnag, fel pob swydd y mae yna adegau pan all fod yn llawn her ac yn ingol. Y mae gofalwyr maeth yn gweithio gartref, yn aml ar eu pennau'u hunain, ac fe all weithiau deimlo ychydig yn ynysig. Ar adegau, y mae arnom ond angen rhywun i siarad ag ef neu hi pan gawn ein hwynebu gan fater cymhleth, megis newidiadau yn y gyfraith neu gael arweiniad ynglŷn â sut i drin sefyllfa anodd gyda pherson ifanc dan ein gofal. Yr wyf wrth fy modd fod Llinell Faethu Cymru yn awr yma i'n cynorthwyo ni."

Am fwy o wybodaeth, i fynychu'r lansio neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch a swyddfa gwasg y Rhwydwaith Maethu ar 020 7620 6441/6416 neu anfonwch e-bost i media@fostering.net

Download Word document, 33 kB