Bach iawn o dâl y mae'r mwyafrif o ofalwyr maeth yn ei gael ac nid yw llawer ohonynt yn cael unrhyw incwm am faethu pobl ifanc agored i niwed ac wedi’u niweidio, yn ôl elusen flaenllaw Rhwydwaith Maethu.
Gwneir yr honiad mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw, dydd Mawrth 6 Mawrth 2007, sy'n edrych ar lefelau tâl ac incwm gofalwyr maeth Cymru ac sy'n canfod, er eu bod yn gwneud cyfraniad hanfodol i gymdeithas, mai bach iawn o dâl a dim ond taliadau symbolaidd y mae'r rhan fwyaf o ofalwyr maeth yn ei dderbyn tra bod eraill yn cael yr un ddime goch. Mae'r adroddiad yn dadlau bod maethu yn aml yn swydd lawn amser oherwydd anghenion y plant sy'n derbyn gofal ond yn rhybuddio bod diffyg tâl digonol yn gwthio llawer o deuluoedd maeth i dlodi.
Canfu'r adroddiad, Methu â Fforddio Maethu (Can’t Afford to Foster):
- nad yw 47 y cant o ofalwyr maeth yn cael tâl o gwbl
- bod 81 y cant o ofalwyr maeth yn cael llai na'r isafswm cyflog
- nad oes gan 87 y cant o ofalwyr maeth swydd lawn amser y tu allan i'r cartref 'u bod yn gorfod dibynnu ar y ffi am faethu i dalu costau byw, hyd yn oed os nad yw hynny'n ddigon.
Mae llawer o blant sy'n cael eu maethu wedi wynebu anawsterau yn y gorffennol ac angen gofalwyr maeth a all aros gartref er mwyn bod ar gael yn ystod y dydd. Mae rhai gwasanaethau maethu yn nodi na all y prif ofalwr maeth gael ail swydd. Gyda chyfleoedd cyfyngedig i ofalwyr maeth ennill incwm ychwanegol, mae’r adroddiad yn galw am gynnydd sylweddol yn y lefelau tâl os am osgoi caledi ariannol ac osgoi rhoi plant dan anfantais bellach.
Er gwaethaf natur lawn amser maethu, canfu'r adroddiad bod yn rhaid i lawer o ofalwyr maeth ategu'r incwm am faethu:
- mae 38 y cant o ofalwyr maeth yn gwneud gwaith ychwanegol llawn amser neu ran-amser y tu allan i'r cartref
- mae 41 y cant yn gorfod dibynnu ar gyflog partner
- mae 24 y cant o ofalwyr maeth yn hawlio budd-daliadau allweddol*.
Mae hyd yn oed y rhai sy'n cael eu talu yn wynebu cyfnodau o ansicrwydd ariannol pan fo plant yn symud i mewn ac allan o'u gofal - dywed o leiaf draean o ofalwyr maeth nad ydynt yn cael eu talu 52 wythnos y flwyddyn. Mae'r Rhwydwaith Maethu o'r farn nad yw hyn yn dderbyniol o ystyried bod pob teulu'n gorfod rheoli costau byw arferol ac efallai y bydd costau ychwanegol ar ofalwyr maeth yn benodol.
Mae'r Rhwydwaith Maethu yn mynnu bod yn rhaid i'r lefelau tâl godi, yn enwedig o ystyried y disgwyliadau mawr sydd ar ofalwyr maeth bellach. Yn y gorffennol, tra'r oedd gofalwyr maeth yn cael eu hystyried yn wirfoddolwyr, ac yn cael lwfans i dalu'r costau a oedd yn deillio o edrych ar ôl plentyn ychwanegol, heddiw disgwylir i ofalwyr maeth weithio fel rhan o dîm proffesiynol, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol ac athrawon.
Meddai Robert Tapsfield, prif weithredwr y Rhwydwaith Maethu: "Disgwylir fwyfwy i ofalwyr maeth weithio’n llawn amser ac ymgymryd â dyletswyddau cymhleth ond yn aml maen nhw’n cael eu trin fel gwirfoddolwyr o ran tâl. Ni ddylai gofalwyr maeth faethu er mwyn yr arian ond ni ddylai cymdeithas chwaith ddisgwyl iddyn nhw ei wneud fel llafur cariad. Ni fyddem ni'n disgwyl i weithwyr cymdeithasol neu athrawon weithio am ddim a chael eu gorfodi i hawlio budd-daliadau er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd."
Mae'r adroddiad, a lansiwyd fel rhan o ymgyrch ehangach, yn galw ar y llywodraeth i fynd i'r afael â thaliadau annigonol trwy gyflwyno ffioedd i adlewyrchu gofynion lleoliadau maethu unigol. Byddai hyn yn golygu talu gofalwyr maeth ar sail eu hymrwymiad amser, lefel sgiliau, hyfforddiant a nifer y plant sydd yn eu gofal. Hefyd, mae’r adroddiad yn pledio achos gofalwyr maeth dros gael ffi 52 wythnos y flwyddyn er mwyn medru cael seibiant rhwng lleoliadau.
Ar hyn o bryd mae yna brinder o 750 o ofalwyr maeth yng Nghymru ac mae'r adroddiad yn pwysleisio os na fydd lefel y tâl yn codi, na fydd rhagor yn cael eu recriwtio a bydd llawer o’r gofalwyr maeth cyfredol yn teimlo na allant fforddio i ddal ati.
Gofalwraig faeth yw Sian Adams sy'n byw yn Sir Fynwy. Meddai: "Mae maethu’n ffordd o fyw, ac aethon ni ddim ati er mwyn yr arian, ond yn bendant am ein bod ni'n maethu rydyn ni'n ei chael yn anodd yn ariannol nawr. Rydyn ni byth a beunydd yn defnyddio ein harian ein hunain am nad yw'r ffi'n ddigon. Hefyd, bu'n rhaid i ni gael benthyciad i brynu cerbyd cludo pobl ac rydyn ni'n talu morgais ar dŷ sy'n ddigon mawr ar gyfer y plant rydyn ni'n eu maethu."
*Budd-daliadau megis: Lwfans Ceisiwr Gwaith, Lwfans Analluogrwydd a Lwfans Anabledd Difrifol, Lwfans Anabledd Byw i'r Anabl, Cymhorthdal Incwm a Chredydau Yswiriant Gwladol. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys budd-daliadau cyffredinol megis Budd-dal Plant.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau neu i drefnu cyfweliadau gyda llefarydd neu astudiaeth achos ffoniwch Becca Bryant neu Claire Dickinson yn y Rhwydwaith Maethu ar 020 7620 6437/6441 neu e-bostiwch media@fostering.net.
