Y mae’r elusen flaenllaw, y Rhwydwaith Maethu, yn mynd i lansio ymgyrch genedlaethol fawr, Pythefnos Gofal Maeth, ddydd Llun, y 14eg o Fai er mwyn gwella cyfleoedd a chanlyniadau i blant mewn gofal maeth drwy Gymru i gyd.
I wireddu’r nod hwn, y mae’r Rhwydwaith Maethu yn gobeithio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen i recriwtio mwy o ofalwyr maeth, tra eu bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r gwaith proffesiynol a wneir gan ofalwyr maeth yng nghymdeithas y dyddiau hyn.
Y mae angen 750 yn fwy o ofalwyr maeth yng Nghymru i ddarparu cartrefi i blant diymgeledd, ac fe fydd Pythefnos Gofal Maeth, sy’n cael ei chynnal tan y 27ain o Fai, yn gofyn i bobl drwy Gymru i gyd feddwl am gynorthwyo i lenwi’r bwlch hwn. Y mae’r prinder cyfredol o ofalwyr maeth yn golygu bod rhai plant yn cael eu symud yn ddiangen o gartref i gartref, yn cael eu gorfodi i newid ysgolion ac yn byw pellteroedd maith oddi wrth gyfeillion a theulu.
Fe ddywedodd Jane Butler, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru:
"Yr ydym yn falch bod Cynulliad Cymru wedi cydnabod bod gofal maeth
yn cyflym symud o rôl wirfoddol i swydd broffesiynol. Y mae’n
bwysig cydnabod y gall gofal maeth medrus weddnewid bywydau plant a
phobl ifanc. Y mae gan blentyn o gefndir amharedig well siawns o
lawer o ddyfodol llwyddiannus os ydyw’n tyfu i fyny mewn teulu
llawn cariad, sefydlog gyda gofalwyr maeth proffesiynol, ymrwymedig
i ofalu amdano.
"Yn y Pythefnos Gofal Maeth hyn, yr ydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod
gofalwyr maeth yn derbyn cefnogaeth, hyfforddiant a thâl digonol,
er mwyn eu galluogi hwynt i ddarparu’r lefelau gofal uchaf. Y mae
hyn yn hanfodol os ydym i ddenu a dal gafael ar y gofalwyr maeth
medrus ychwanegol y mae arnom angen i wella’r canlyniadau i blant o
dan ofal cyhoeddus ledled Cymru.
"Fe fydd cronfa ehangach o ofalwyr maeth medrus yn ei gwneud hi’n haws canfod y cartref cywir i bob plentyn y tro cyntaf. Er bod llawer o bobl wedi clywed am faethu, nid yw’r rhan fwyaf yn sylweddoli y gallant fod yn addas neu fod yna lawer o wahanol fathau o faethu, yn amrywio o leoliadau byrdymor sy’n gofyn am un penwythnos y mis i eraill sy’n para am lawer o flynyddoedd. Fe all pobl ddewis maethu fel gyrfa amser llawn neu gyfuno maethu gyda phroffesiwn arall. Cyn belled â bod gennych y lle, y sgiliau, yr amser a’r ymrwymiad, yna y mae yna fath o ofal maeth a allai fod yn addas i chi."
I enghreifftio amrywiaeth y sawl sy’n maethu, y mae pedwar wyneb gofal maeth wedi’u dethol o Gymru i adrodd eu hanesion ac i ymddangos mewn arddangosfa a gomisiynwyd yn arbennig, a fydd yn cael ei harddangos yn y Point, Bae Caerdydd, ddydd Llun, y 14eg o Fai. Y mae’r wynebau gofal maeth yn adlewyrchu’r ystod amrywiol o oedrannau, sgiliau a chefndiroedd sydd eu hangen i ofalu am y plant, sydd yr un mor amrywiol o dan ofal yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Fe ddywedodd y cyfranogwr wyneb gofal maeth, Linda Baldry, sy’n ofalwr maeth profiadol o Gymru:
"Y mae bod yn ofalwr maeth yn gofyn am feddwl agored, bod yn hyblyg a bod gennych synnwyr digrifwch da. Yr wyf yn teimlo’n ffodus iawn i fod wedi rhannu fy mywyd gyda’r plant yr wyf wedi’u maethu. Fe wnaeth plentyn un flwydd oed gyrraedd ataf gyda pharlys yr ymennydd, a phryd hynny ni allai hyd yn oed eistedd i fyny heb gymorth. Y mae ef yn bedair oed yn awr, ac y mae’n mynd i farchogaeth, nofio ac i glwb campfa. Y mae ef yn seren fach, ac y mae hynny i gyd yn dod oddi wrtho ef. Y mae’n gymaint o fraint rhannu yn ei fywyd.
"Yr wyf wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun drwy faethu ac y mae hefyd wedi bod o fudd i fy mhlant fy hun, gan eu haddysgu i rannu a hefyd i werthfawrogi bod yna lawer o wahanol ochrau i fywyd teuluol. Yr wyf yn annog unrhyw un sy’n meddwl am faethu i gymryd y camau cyntaf hynny i ganfod mwy."
Y mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu i fynd i www.fostercarefortnight.co.uk, ble y gellir canfod hanesion a delweddau’r holl wynebau gofal maeth.
