Y mae elusennau blaenllaw sy’n ymwneud â lles plant dan ofal yn mynd i lansio ymgyrch i wahardd yr arfer cyfredol o symud eiddo plant mewn sachau ysbwriel duon. Nod yr ymgyrch, Nid siwtces mo hwn, yw annog yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i lofnodi siarter sy’n gwahardd y defnydd o sachau ysbwriel a sicrhau bod cyllid ar gael i brynu siwtcesys.
Y mae’r tair elusen, y Rhwydwaith Maethu, Lleisiau mewn Gofal Cymru, a Sefydliad Grŵp Bryn Melyn, yn mynd i gynnal sioe ffasiwn gyda gwahaniaeth heddiw, dydd Iau, y 5ed o Orffennaf i nodi dechrau’r ymgyrch.
Fe fydd Helen-Mary Jones, Aelod Cynulliad, yn modelu ochr yn ochr â phobl ifanc dan ofal, pobl sy’n ymadael â gofal, prif weithredwyr elusennau a chyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol. Y mae’r casgliad anghyffredin o ddillad wedi’i greu gan ddylunwyr a phobl ifanc, ac fe wneir y dillad o ddeunydd sachau ysbwriel.
Y mae’r digwyddiad, a gynhelir yn The Point yng Nghaerdydd o 7.00 yr hwyr tan 9.00 yr hwyr, yn cael ei ariannu gan Sefydliad Laura Ashley ac yn cael ei gefnogi gan Clinique, sy’n darparu artistiaid coluro.
Fe ddywedodd Debbie Jones, prif weithredwr Lleisiau mewn Gofal Cymru: “Y mae’r arfer o ganiatáu i blant a phobl ifanc symud cartref neu adael gofal gyda’u heiddo mewn sach ysbwriel yn sarhaus ac yn hollol annerbyniol yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Fe ddywedodd Jane Butler, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: “Y mae hi’n warthus bod plant dan ofal yn gorfod symud eu heiddo mewn sachau ysbwriel. Y mae’n eu dinoethi hwynt o’u hurddas ac y mae’n rhoi’r argraff i’r plant hyn mai ysbwriel ydynt hwy a’u heiddo.
“Er ei fod yn newyddion gwych bod hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi llofnodi’r siarter i wahardd y defnydd o sachau ysbwriel, yr wyf yn herio’r gweddill i ymuno a sicrhau nad yw eu pobl ifanc yn dioddef y cywilydd o weld eu heiddo mwyaf gwerthfawr yn cael ei symud mewn rhywbeth mor amhriodol â leinin bin ysbwriel.”
Fe ddywedodd Joyce, 21: “Fe euthum o dan ofal maeth gyda fy mab pan oeddwn yn 15 mlwydd oed. Fe gefais fraw o gael pecyn o leininau bin duon. Fe wnaeth imi deimlo fel darn o ysbwriel – fel pe na bawn yn werth dim. Fe ddaeth rhai cyfeillion i fy nghefnogi pan oeddwn yn symud allan ac fe rwygodd un o’r bagiau ac fe syrthiodd fy mhethau allan ar y stryd. Fe deimlais gymaint o gywilydd.”
