sign in

Mae angen rhagor o rieni maeth gwrywaidd fel modelau rôl positif ar gyfer plant mewn gofal meddai un o brif elusennau maethu

17 March 2008

Dylai rhieni maeth gwrwyaidd gael eu dathlu fel modelau rôl hanfodol ar gyfer plant mewn gofal gan fod nifer o’r plant wedi cael profiadau negyddol iawn o ddynion, yn ôl yr hyn y bydd Rhwydwaith Maethu Cymru’n ei ddweud yr wythnos nesaf.

Yng nghynhadledd yr elusen Dynion mewn Gofal Maeth yn ne Cymru ddydd Llun 17 Mawrth, bydd y cadeirydd Jim Bond yn tanlinellu’r angen am ragor o ddynion i ddod yn rhieni maeth, oherwydd y berthynas werthfawr a phositif maen nhw’n gallu ei gynnig i rai o blant mwyaf bregus ein cymdeithas.

Gall rhieni maeth gwrywaidd rhoi cyfle i blant, yn enwedig bechgyn, archwilio materion ynghylch eu tad geni a chael cyswllt gyda dynion sy'n deall eu hanghenion. Gallen nhw fod yn fodelau rôl gan roi i blant maeth eu cyswllt dyddiol agos positif cyntaf gyda dynion.

Fodd bynnag, yn ôl ymchwil diweddar, nid yw dynion yn dod ymlaen i weithio gyda phlant oherwydd bod ganddyn nhw ofn cael eu labelu’n bedoffiliaid. Mae hynny, ynghyd â diffyg athrawon gwrywaidd mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd, yn golygu na fydd nifer o blant a phobl ifanc byth yn cael model rôl gwrywaidd positif.

Meddai rhiant maeth Joe Griffiths o Gaerffili: “Fel rhiant maeth rwyf eisiau cynnig cyfle i blentyn brofi bywyd teulu cyffredin. Gwn mai fi yw'r model rôl gwrwaidd positif cyntaf ym mywydau rhai o'r plant rydym wedi gofalu amdanyn nhw. Mae gweld pobl ifanc yn tyfu a ffynnu a gwybod fy mod innau wedi chwarae rôl yn hynny, yn dâl gwerthfawr.”

Meddai Jim Bond, Cadeirydd y Rhwydwaith Maethu: “Yn draddodiadol mae gofal maeth wedi’i weld fel tasg sy’n cael ei gwneud gan ferched, ac er bod amserau wedi newid, ymddengys fod y cyhoedd yn dal i feddwl felly. 

“Ond mewn gwirionedd mae gan ddynion lawer i’w gynnig fel gofalwyr maeth.  Maen nhw’n gallu bod yn fodel rôl positif nad yw rhai o'r plant bregus hyn erioed wedi'i gael o’r blaen. Rydym eisiau annog rhagor o ddynion i ddod ymlaen ac i’w sicrhau fod ganddyn nhw rôl hanfodol i’w chwarae, naill ai fel gofalwyr unigol neu fel hanner mewn cwpl yn maethu."

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â 020 7620 6441/37 neu media@fostering.net.  

Nodiau i Olygyddion

  1. Cynhelir cynhadledd Dynion fel Gofalwyr Maeth yng Nghlwb Rygbi Pontypridd ddydd Llun 17 Mawrth 2008.
  2. Y Rhwydwaith Maethu yw elusen arweiniol y DU ar gyfer pawb sydd â rhan mewn maethu ac mae’n bodoli er mwyn sicrhau fod pob plentyn sy’n cael ei faethu yn derbyn y safonau uchaf o ofal.
  3. Mae 4,500 o blant mewn gofal ar unrhyw un diwrnod yng Nghymru, bron iawn 3,500 ohonynt yn byw gyda 1,900 o deuluoedd maeth.
Download Word document, 36 kB