Mae ymgyrch genedlaethol fawr yn cael ei lansio gan Rwydwaith Maethu Cymru ar 12 Mai i annog rhagor o bobl i ystyried a oes ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i faethu.
Bydd Helen Mary Jones AC yn lansio Pythefnos Gofal Maeth (12 – 25 Mai) yn y Senedd, Adeiladau Llywodraeth Cynulliad Cymru ddydd Llun 12 Mai. Bydd y lansiad yn cynnwys y dangosiad cyntaf o Telling My Story, cyfres o bedair stori ddigidol wedi’u cynhyrchu gan rai’n gadael gofal ynghylch eu profiadau o fod mewn gofal maeth. Rhieni maeth, pobl broffesiynol gofal cymdeithasol eraill a phobl ifanc gyda phrofiad o ofal maeth fydd yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd Jane Hutt, y gweinidog dros blant, addysg, dysgu gydol oes a sgiliau, yn cyfarfod cyn y lansiad â'r bobl ifanc gyda phrofiad o ofal.
Bydd y ffigyrau newydd ynghylch y nifer o rieni maeth sydd eu hangen yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf yn cael eu datgelu yn y digwyddiad.
Mae prinder o 750 o rieni maeth yng Nghymru, sy’n golygu fod rhai plant yn cael eu symud o gartref i gartref yn ddianghenraid, yn gorfod newid ysgolion a byw bellteroedd oddi wrth ffrindiau a theulu.
Eleni, o dan y pennawd maethu: adnabod eich rhinweddau; mae’r ymgyrch yn annog pobl i sylweddoli efallai bod ganddyn nhw yr un rhinweddau â’r rhai sy’n maethu ar hyn o bryd, a bod hynny’n sail ar gyfer dod yn rhiant maeth gwych. Mae’r rhinweddau allweddol yn cynnwys gallu gwrando a sylwi’n dda, bod â synnwyr da o ddigrifwch, bod yn optimistig ac yn wydn.
Meddai Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Mae “Telling My Story” yn rhoi cyfle i bobl ifanc gyda phrofiad o ofal maeth gael dweud eu dweud, ac mae’n rhoi cipolwg breintiedig i ni i mewn i’w bywydau. Mae gan rieni maeth rôl hanfodol i’w chwarae wrth feithrin a chefnogi pobl ifanc fel hyn. Mae’r ymgyrch recriwtio rydym yn ei lansio heddiw’n dangos beth yw’r rhinweddau angenrheidiol i fod yn rhiant maeth ac yn annog pobl i sylweddoli eu bod ganddyn nhw hefyd."
Cymhyrchwyd “Telling My Story” gyda chymorth Canolfan George Ewart ar gyfer Dweud Stori ym Mhrifysgol Morgannwg, fel rhan o brosiect dweud stori ddigidol BBC Cymru gyda chefnogaeth oddi wrth yr elusen Voices From Care Cymru.
I ganfod rhagor ynghylch maethu a dod yn rhiant maeth ymwelwch â www.couldyoufoster.org.uk.
