sign in

Angen cannoedd yn fwy o rieni maeth yng Nghymru yn unig eleni, rhybuddia elusen

12 May 2008

Mae’n rhaid cael o leiaf 370 yn rhagor o rieni maeth led led Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf yn unig er mwyn rhoi’r cartrefi y maen nhw’n ei haeddu i blant yn derbyn gofal - dyna rybudd yr elusen arweiniol Rhwydwaith Maethu mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw (12 Mai).

Cyhoeddwyd y ffigwr newydd, o arolwg o awdurdodau lleol, i gyd-fynd â lansiad ymgyrch godi ymwybyddiaeth flynyddol yr elusen Pythefnos Gofal Maeth (12 – 25 Mai). Gyda’r slogan maethu: adnabod eich rhinweddau mae'r ymgyrch yn annog pobl i sylweddoli efallai bod ganddyn nhw yr un rhinweddau â'r rhai sy'n maethu ar hyn o bryd, a bod hynny'n ddigon o sail i ddod yn rhiant maeth.

Meddai Freda Lewis, cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: "Heb y rhieni maeth newydd hollol angenrheidiol hyn bydd llawer gormod o blant yn dal heb sefydlogrwydd yn eu bywyd, gartref nac yn yr ysgol, sef yr allwedd i lwyddiant yn nes ymlaen.

Er y gall bron iawn bawb ymgeisio, mae’n rhaid i rieni maeth fod â rhinweddau arbennig a bydd rhai pobl yn fwy addas nag eraill. Mae’r ymgyrch eleni’n dangos y rhinweddau sydd eu hangen i fod yn riant maeth – rhai fel bod yn optimistig, yn gallu gwrando’n dda, gallu gweld pethau o safbwynt y plentyn a bod yn hwyliog – ac yn annog pobl i sylweddoli bod y rhain ganddyn nhw."

Dylai pob plentyn sy’n derbyn gofal maeth allu byw gyda rhiant maeth sydd wedi’i ddewis yn ofalus i gyfarfod ag anghenion penodol y plentyn hwnnw o ran lleoliad, diwylliant, ffordd o fyw, iaith a hyd yn oed ddiddordebau. Mae’r prinder rhieni maeth yn golygu fod plant yn cael eu gadael ymhell o’u teuluoedd, yn cael eu symud o gartref i gartref ac yn cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a’u chwiorydd. Y mwyaf o rieni maeth sydd ar gael, y mwyaf tebyg yw y gellir cydweddu’n dda.

Gofynnwyd i awdurdodau lleol Cymru, yn yr arolwg, beth oedd eu targed recriwtio am y 12 mis nesaf. Daethpwyd at y ffigwr o 370 ar sail ymatebion oddi wrth 18 o awdurdodau lleol (82 y cant).

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn rhedeg o 12 - 25 Mai. I ganfod rhagor ynghylch maethu a dod yn rhiant maeth ymwelwch â www.couldyoufoster.org.uk neu ffonio 0800 040 7675.
Download Word document, 36 kB

Nodiadau i Olygyddion

  1. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 020 7620 6441/37/16 (dyddiau gwaith) neu 07963 458953 (penwythnosau) neu e-bostiwch media@fostering.net
  2. Bydd yr arolwg yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol mewn digwyddiad i ddathlu cychwyn Pythefnos Gofal Maeth yn Adeilad Llywodraeth Cynulliad Cymru am 10.30am dydd Llun 12 Mai 2008. Bydd y lansiad yn cynnwys y dangosiad cyntaf o Telling My Story, cyfres o bedair stori ddigidol wedi'u cynhyrchu gan rai'n gadael gofal ynghylch eu profiadau. I ddod yno, cysylltwch â media@fostering.net
  3. Mae bron i 3,500 o blant yn byw gyda 1900 o deuluoedd maeth yng Nghymru bob diwrnod, gyda llawer mwy yn symud i mewn ac allan o gartrefi maeth yn ystod y flwyddyn
  4. Y Rhwydwaith Maethu yw elusen arweiniol y DU ar gyfer pawb sydd â rhan mewn maethu ac mae’n bodoli er mwyn sicrhau fod pob plentyn sy’n cael ei faethu yn derbyn y safonau uchaf o ofal.