Mae llinell gynghori newydd, gafodd ei lansio ym mis Ionawr 2007, yn rhoi cyfle i ofalwyr maeth gael cyngor cyfrinachol a diduedd ar bob agwedd o ofal maeth, o ddarpariaeth gadael gofal i faterion sy’n ymwneud â deddfwriaeth neu gyllid.
Yn dilyn ymgyrch benodol gafodd gefnogaeth gan nifer o’n cydweithwyr sy’n gweithio o fewn gofal maeth, mae’r Rhwydwaith Maethu wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu’r llinell gymorth ddwyieithog ar gyfer pawb sy’n rhan o ofal maeth yng Nghymru.
"Y mae'n swnio fel ei bod am fod yn ffynhonnell fendigedig o wybodaeth ar gyfer gofalwyr maeth. Y mae llawer o bethau mewn maethu sy'n destun llawenydd, ond fel unrhyw waith, fe all hefyd fod yn eitha' dyrys ac ar adegau y mae arnoch angen cefnogaeth.
Y mae'n gysurlon gwybod y bydd mynediad cyflym at gyngor ac arweiniad oddi wrth bobl sy'n deall yr hyn yr ydym yn cael profiad ohono yn go fuan ond galwad ffon ymaith."